Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher, 1
Chwefror 2017
Amser y
cyfarfod: 13.30
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 3.
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
I’r Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon:
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar wasanaethau offthalmoleg yng Nghymru? EAQ(5)0116(HWS)
(5 munud)
(30 munud)
(60 munud)
NDM6220 Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar yr ymchwiliad i barodrwydd ar gyfer y gaeaf 2016-17, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Rhagfyr 2016.
Nodyn: Gosodwyd ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Ionawr 2017.
(60 munud)
NDM6223 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu bod gwasanaethau gofal cymdeithasol da yn chwarae rhan hanfodol o ran cadw'r GIG yn gynaliadwy.
2. Yn nodi bod gofalwyr di-dâl yn gwneud cyfraniad hanfodol o ran sicrhau cynaliadwyedd gofal iechyd a gofal cymdeithasol ac na chaiff ei werthfawrogi ac yn gresynu at y gostyngiad yn nifer y nosweithiau o ofal seibiant a ddarparwyd ers 2011.
3. Yn credu y gallai ysbytai cymuned chwarae rhan hanfodol o ran darparu gofal seibiant, a hwyluso'r broses bontio yn ôl i ofal iechyd cymunedol ar gyfer y rhai sydd wedi bod angen gofal mewn ysbyty.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wyrdroi'r arfer o gau ysbytai cymuned ac archwilio ffyrdd o adfer argaeledd gwelyau i'w defnyddio gan wasanaethau gofal iechyd a gofal cymdeithasol.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1.
Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Dileu'r cyfan ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi cyfraniad gofalwyr di-dâl i'r system iechyd a gofal cymdeithasol.
Yn credu y dylai gofal seibiant fod yn hyblyg ac y gallai ddigwydd mewn amrywiaeth eang o leoliadau, gan gynnwys yn y cartref ac yn y gymuned ehangach.
Yn nodi bod ysbytai cymunedol yn un o nifer o leoliadau a all chwarae rhan yn darparu gofal seibiant a gofal amrywiol wrth i gyflyrau waethygu neu wella.
Yn croesawu:
a) ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu dull gweithredu cenedlaethol ar gyfer gofal seibiant er mwyn sicrhau bod y gofal hwnnw'n ymateb i anghenion unigolion mewn ffordd gyson ar draws Cymru;
b) y buddsoddiad mewn gwasanaethau gofal ychwanegol a wnaed yn bosib drwy'r Gronfa Gofal Canolraddol gwerth £60m yn 2017-18; ac
c) y gronfa newydd gwerth £40m a gyhoeddwyd yng
Nghyllideb 2017-18 i ddatblygu canolfannau integredig iechyd a
gofal cymdeithasol newydd ar draws Cymru.
'Cyllideb Derfynol 2017-2018
'
Gwelliant
2.
Paul Davies
(Preseli Sir Benfro):
Ychwanegu ar ddiwedd pwynt 1:
ac yn cydnabod rôl y gweithwyr gofal iechyd proffesiynol
o ran lleihau'r galw diangen am ofal cymdeithasol.
Gwelliant
3.
Paul Davies
(Preseli Sir Benfro):
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r
Cynulliad ynghylch gweithredu Adran 35 o Ddeddf Gwasanaethau
Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, o ran diwallu anghenion
seibiant gofalwyr.
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant
(Cymru) 2014
(30 munud)
NDM6221 Nick Ramsay (Mynwy):
Taro'r Fargen Ddinesig – y camau nesaf i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 7 Chwefror
2017